News & Insights

bp ac EnBW yn cyflwyno cais cwmpasu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA) ar gyfer fferm wynt Morgan

  •  2 min read

Ar 17 Ionawr, cafodd JNBP yr holl gyfranddaliadau yn Mona.

 

bp ac EnBW yn cyflwyno cais cwmpasu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA) ar gyfer asedau cynhyrchu trydan fferm wynt Morgan

Mae bp ac EnBW wedi cyflwyno eu cais cwmpasu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA) ar gyfer asedau cynhyrchu trydan fferm wynt Morgan i’r Arolygiaeth Gynllunio. Dyma’r cam nesaf tuag at gyflawni’r prosiect hwn y disgwylir iddo ddarparu hyd at 1.5GW o ynni glân – digon i bweru tua 1.7 miliwn o gartrefi. Mae’r adroddiad yn esbonio sut y byddwn yn mynd ati i asesu a deall unrhyw effeithiau posibl y gallai’r prosiect eu cael ar yr amgylchedd.

Pam mae’n bwysig?

Mae cwmpasu yn sicrhau:

  • Nodir y materion amgylcheddol a chymdeithasol allweddol y dylid mynd i’r afael â hwy yn gynnar
  • Mae’r Datganiad Amgylcheddol yn canolbwyntio ar y materion allweddol  Mae ymgynghori ag ymgyngoreion perthnasol yn digwydd yn gynnar

Beth sydd nesaf?

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio nawr yn ymgynghori ag ymgyngoreion technegol i gael eu barn ar yr hyn sydd yn yr adroddiad cyn cyhoeddi eu barn gwmpasu. Bydd y cais cwmpasu ar gyfer yr asedau trosglwyddo yn dilyn.  Ar hyn o bryd rydym yn disgwyl y bydd y cylch cyntaf o ymgynghori cymunedol anstatudol ar gyfer prosiect Morgan yn dechrau ym mis Medi 2022.