News & Insights

bp ac EnBW yn cyflwyno cais cwmpasu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA) ar gyfer fferm wynt Mona

Mai 2022  •  2 min read

Ar yr adeg y cyhoeddwyd yr erthygl hon, roedd Mona Offshore Wind Holdings Limited yn eiddo ar y cyd i bp (JERA Nex bp bellach) ac EnBW. Ar 17 Ionawr 2026, cafodd cyfranddaliadau EnBW yn y cwmni hwnnw eu caffael gan JERA Nex bp.

 

Mae bp ac EnBW wedi cyflwyno eu cais cwmpasu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA) ar gyfer fferm wynt Mona i’r Arolygiaeth Gynllunio a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Dyma’r cam nesaf tuag at gyflawni prosiect sydd yn disgwyl darparu hyd at 1.5GW o ynni glân – digon i bweru tua 1.7 miliwn o anneddau. Mae’r adroddiad yn esbonio sut y byddwn yn mynd ati i asesu a deall unrhyw effeithiau posibl y gallai’r prosiect ei gael ar yr amgylchedd.

Pam bod hyn yn bwysig?

Mae cwmpasu yn sicrhau:

  • Nodir materion amgylcheddol a chymdeithasol allweddol y dylid mynd i’r afael â hwy yn gynnar
  • Mae’r Datganiad Amgylcheddol yn canolbwyntio ar y materion allweddol
  • Ymgynghori ag ymgyngoreion perthnasol yn gynnar yn y broses

Beth sydd nesaf?

Anfonir yr adroddiad at yr Arolygiaeth Gynllunio (PINS) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Bydd yr asiantaethau hyn yn awr yn ymgynghori ag ymgyngoreion technegol i gael eu barn ar yr hyn sydd yn yr adroddiad cyn cyhoeddi eu barn gwmpasu. Byddwn hefyd yn ceisio dechrau ein cam cyntaf o ymgynghori cymunedol ar gyfer prosiect Mona ym mis Mehefin 2022.